Wici Y Cyfryngau Cymraeg
Advertisement

Rhaglen deledu ar ffurf drama ddirgelwch yw 35 Diwrnod a 35 Awr. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Apollo (rhan o grŵp Boom Cymru). Fe'i ddarlledir yn y slot ddrama arferol am 9pm ar nos Sul ar S4C.

Mae pob cyfres yn serennu cast a chymeriadau newydd, a phob cyfres yn dilyn un stori gyda phatrwm tebyg drwy gychwyn wrth ddarganfod corff marw. Wedi hynny mae'r stori yn neidio nôl 35 diwrnod/awr drwy gyflwyno'r sefyllfa a chymeriadau. Mae'r penodau sy'n dilyn yn symud ymlaen drwy amser cyn cyrraedd yn ôl i'r golygfeydd cychwynnol i ddatgelu'r llofrudd.

Cynhyrchiad[]

Ffilmiwyd y gyfres cyntaf yn 2014 ac fe'i darlledwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2014. Prif leoliad y ffilmio oedd ystad preifat o dai o'r enw Meadow Gate yn Maesycwmer, ger Caerffili. Enw'r stryd yn y gyfres oedd 'Crud yr Awel'.

Cychwynwyd ffilmio yr ail gyfres ar 15 Mehefin 2015 ac fe'i darlledwyd yn Nhachwedd a Rhagfyr 2015. Prif leoliad y gyfres yma oedd swyddfa mewn bloc swyddfa uchel yng nghanol Caerdydd.

Cychwynwyd ffilmio y drydedd gyfres yng Nghorffennaf 2016, mewn lleoliad gwledig y tro hwn. Fe'i darlledwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2017. Lluniwyd y stori gan Siwan Jones a Wil Roberts ac awdur y sgript oedd Siwan Jones.

Cynhyrchwyd y bedwaredd gyfres gyda'r enw 35 Awr ym 2018, gyda sgript wedi’w hysgrifennu gan Fflur Dafydd. Ffilmiwyd y gyfres yng ngwesty Court Colman Manor ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ddechrau'r ffilmio, nid oedd yr actorion yn gwybod pa rannau oeddent am chwarae nac yn gwybod am y cymeriadau arall yn y gyfres.

Cyfres 1 (2014)[]

Lleolir y gyfres ar ystad dai gefnog a pharchus 'Crud yr Awel'. Datgelir corff marw Jan ar ddechrau'r gyfres cyn neidio nôl 35 diwrnod ynghynt pan ddaeth y wraig ifanc i fyw i'r stad. Wrth i'r gyfres barhau rydym yn dod i adnabod ei chymdogion yn y stryd a'u cyfrinachau. Datgelir y llofrudd ym munudau cloi'r bennod olaf.

Cast[]

Cymeriad Actor
Jan Richards Lois Jones
Caroline James Eiry Hughes
Huw James Ceri Murphy
Gruff Morris Wyn Bowen Harries
Beti Morris Olwen Rees
Ben Morris Martin Thomas
Richard Jenkins Ryland Teifi
Sali Jenkins Beth Robert
Patricia Matthew Gravelle
Tony Morgan Rhys ap William
Linda Morgan Catrin Morgan
Mark Aled Pedrick
Cerian Jenkins Elin Haf Davies
Jac Jenkins Aled Bidder
Bethan Lucy Hannah
Rhys Gabriel Hunter
Sioned Martha Herbert
Melodi Alys Jones
Bobo Rhys ap Hywel

Penodau[]

# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd Gwylwyr
1 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-1 35 diwrnod ynghynt Gareth Bryn Siwan Jones, William Owen Roberts 23 Mawrth 2014 62,000
Darganfod corff marw yw man cychwyn y gyfres. Mae'r bennod gyntaf yn dechrau 35 diwrnod cyn darganfod y corff.
2 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-2 29 diwrnod ynghynt Gareth Bryn Siwan Jones, William Owen Roberts 30 Mawrth 2014 48,000
Gyda Jan yn gwneud ei hymddangosiad llawn cyntaf ar y Clos, mae ei dylanwad ar y trigolion eraill i'w weld yn syth
3 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-3 25 diwrnod ynghynt Gareth Bryn Siwan Jones, William Owen Roberts 6 Ebrill 2014 33,000
Mae Jan yn parhau i gynhyrfu'r dyfroedd yng Nghlos Crud yr Awel, wrth fynd a dod.
4 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-4 16 diwrnod ynghynt Gareth Bryn Siwan Jones, William Owen Roberts 13 Ebrill 2014 38,000
Ydy hi am fod yn flwyddyn newydd dda ar y Clos? Dim i un unigolyn sy'n ymadael yn annisgwyl iawn.
5 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-5 9 diwrnod ynghynt Paul Jones

Siwan Jones, William Owen Roberts

20 Ebrill 2014 30,000
Mae byd Jan yn mynd yn fwy ac yn fwy cymhleth wrth i nifer gynyddol o drigolion y Clos ddymuno cael gwared â hi o Grud yr Awel.
6 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-6 7 diwrnod ynghynt Paul Jones Siwan Jones, William Owen Roberts 27 Ebrill 2014 39,000
Wrth i Mark ddilyn Jan i'r Clos, cawn ddysgu mwy am gefndir Jan a pham mae wedi dewis byw yng Nghrud yr Awel.
7 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-7 3 diwrnod ynghynt Rhys Powys Siwan Jones, William Owen Roberts 4 Mai 2014 35,000
Yn y bennod olaf ond un, ydyn ni rhywfaint yn agosach at ddyfalu pa un o drigolion y Crud Yr Awel fydd yn gyfrifol am farwolaeth Jan?
8 35-Diwrnod-Cyfres-1-Pennod-8 3 diwrnod ynghynt Rhys Powys Siwan Jones, William Owen Roberts 11 Mai 2014 38,000
Daw 35 diwrnod Jan i ben yn raddol, ond mae'n dal i gael ei weld pwy fydd yn gyfrifol am ei marwolaeth. Mae materion eraill yn dod i'r amlwg yn cynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn car Jan ar ôl ymddangosiad Bobo. Yn y cyfamser, mae Tony wedi ei syfrdanu pan mae rhywun yn ymddangos yn ei ystafell wely.

Gwobrau[]

Gwyl Dyddiad Gwobr Derbynnydd Canlyniad
BAFTA Cymru 2014 Golygu gorau Dafydd Hunt Enillwyd
Goleuo a ffotograffiaeth Huw Talfryn Walters Enwebwyd
Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin Siwan Jones / Wil Roberts Enwebwyd
Cyfarwyddwr gorau Gareth Bryn Enwebwyd
Yr actor gorau Matthew Gravelle Enwebwyd

Galeri[]

Cyfres 2[]

Lleoliad canolog y gyfres hon yw swyddfa cwmni ymchwilio twyll yswiriant. Yn y bennod cyntaf mae parti'r cwmni yn cymryd lle yn ei swyddfa mewn adeilad tal. Mae Simon yn cyrraedd y swyddfa ac yn siarad a rhywun ar y ffôn, sy'n gofyn i'w gyfarfod ar do'r adeilad. Wrth iddo gyrraedd rydym yn gweld dau berson yn y tywyllwch cyn gweld Simon yn disgyn i'r palmant ymhell islaw. Yna mae'r stori yn teithio 35 diwrnod yn ôl i'r gorffennol lle mae'r gwyliwr yn dod i adnabod y cymeriadau.

Cast[]

Cymeriad Actor
Simon Mark Flanagan
Ruth Lowri Steffan
Helen Mair Rowlands
Jeff Richard Elis
Martin Rhodri Evan
Katie Saran Morgan
Alun Sion Alun Davies
Claire Nia Roberts
Fran Caitlin Richards
Danny Paul Morgans
Hazel Rhian Jones
Leslie Bethan Bevan
Charlie Garmon Rhys
Tim Gibson Rhys Parry Jones
Tudor Gareth Milton
Reg Gareth Pierce
Elfyn Dewi Rhys Williams
Geraint Glyn Pritchard
Chris Huw Rhys
Robin Iestyn Gwyn Jones


Penodau[]

#
Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd Gwylwyr
1 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 1 35 diwrnod ynghynt Lee Haven Jones Siwan Jones, William Owen Roberts 8 Tachwedd 2015 29,000
Mae criw o ffrindiau yn mwynhau barbeciw ar brynhawn braf. All bywyd ddim bod yn well. Ond o dan y wyneb mae tensiynau.
2 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 2 32 diwrnod ynghynt Lee Haven Jones Siwan Jones, William Owen Roberts 15 Tachwedd 2015 31,000
Pwy oedd yn gyfrifol am losgi warws Chris? Ond yn bwysicach, pam?
3 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 3 28 diwrnod ynghynt Lee Haven Jones Siwan Jones, William Owen Roberts 22 Tachwedd 2015 51,000
Pam mae Ruth yn gofyn i Claire gasglu gwybodaeth am Tim Gibson? A pam fod Helen mor amheus o Tim?
4 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 4 24 diwrnod ynghynt Lee Haven Jones Siwan Jones, William Owen Roberts 29 Tachwedd 2015 47,000
Wrth deimlo bod y rhwyd yn cau amdano, sut mae Simon yn mynd i achub ei hun? Pa gyfrinach mae Helen wedi bod yn ceisio ei guddio?
5 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 5 18 diwrnod ynghynt Rhys Powys

Siwan Jones, William Owen Roberts

6 Rhagfyr 2015 llai na 24,000
Pa wybodaeth newydd mae Jeff yn ei ffeindio wrth ymchwilio i'r tân yn y warws ar ran ei gefnder Chris?
6 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 6 13 diwrnod ynghyn Rhys Powys Siwan Jones, William Owen Roberts 13 Rhagfyr 2015 21,000
Beth oedd achos diwedd Jeff? Llofruddiaeth, hunan-laddiad neu ddamwain?
7 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 7 - Rhian Jones 8 diwrnod ynghynt Rhys Powys Siwan Jones, William Owen Roberts 20 Rhagfyr 2015 llai na 18,000
Pwy yw'r un sy'n dal Helen ynghanol ei scam yn yr eglwys? Lle mae Fran yn mynd i geisio dianc gafael Martin arni?
8 35 Diwrnod - Cyfres 2 - Pennod 8 3 diwrnod ynghynt Rhys Powys Siwan Jones, William Owen Roberts 27 Rhagfyr 2015 llai na 23,000
Beth mae Martin yn penderfynu ei wneud gyda'r corff marw yn ei fflat? Pam fod Chris eisiau Hazel i'w ymweld yn y carchar?


Gwobrau[]

Gwyl Dyddiad Gwobr Derbynnydd Canlyniad
BAFTA Cymru 2015 Cyfarwyddwr gorau Lee Haven Jones Enillwyd
Drama Gorau ar gyfer y teledu 35 Diwrnod Enwebwyd
Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin Siwan Jones / Wil Roberts Enwebwyd

Galeri[]

Cyfres 3[]

35-Diwrnod-Cyfres-3

Plot[]

Mae'r drydedd gyfres yn symud i gefn gwlad ac yn adrodd hanes teulu fferm Dolwen. Mae plant y teulu yn dod adre wedi marwolaeth eu mam, Mair a caiff manylion ei hewyllys ei ddarllen.

Cast[]

Cymeriad Actor
Huw Ifan Huw Dafydd
Lissie Sharon Morgan
Tom Owain Gwynn
Josh Lloyd Meredith
Geraint Geraint Morgan
Gwenda Victoria Pugh
Catrin Grace O'Brien
Nia Mali Tudno Jones
Sara Sian Reese-Williams
Dafydd Owain Arthur
Ifan Gwydion Rhys
Joy Heledd Gwynn
Gwyndaf Dafydd Hywel
Mair Gwen Ellis
Cynthia Rae Carpenter
Mabli Cadi-Gwen Sandall
Mabon Efan Arthur Williams
Macsen Sonny Parker Jones

Penodau[]

# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd Gwylwyr
1 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 1 35 diwrnod ynghynt Andy Newbery Siwan Jones 5 Mawrth 2014 43,000
Ni fu teulu fferm Dolwen gyda'i gilydd ers dathlu pen-blwydd eu tad Gwyndaf yn 60 oed bum mlynedd ynghynt. Wedi marwolaeth eu mam, mae'r plant yn dod adre' i daenu llwch Mair ond mae ei hewyllys yn ysgytwad mawr iddynt. Mae sawl breuddwyd yn chwalu'n deilchion ac mae Geraint a'i ddwy chwaer Nia a Sara yn amau bod eu Hewyrth Huw wedi perswadio eu mam i newid yr ewyllys. Does dim dewis ond ei herio a mynnu cael y tir yn ôl yn nwylo'r teulu.
2 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 2 33 diwrnod ynghynt Andy Newbery

Siwan Jones

12 Mawrth 2017 23,000
Mae penderfyniad eu diweddar fam i drosglwyddo tir Dolwen i'w brawd yng nghyfraith, Huw, wedi gwylltio ei phlant gan greu cynnen yn eu mysg ynglyn â'r ffordd orau ymlaen. Efallai bod yr ateb i'w gael yn nyddiadur coll eu mam. A wnaeth Huw ddylanwadu ar Mair? Bydd hi'n anodd cael y tir 'nôl heb orfod mynd at y gyfraith. Dyma'r cur pen mawr i Geraint, Nia a Sara. Ond pam mae Ifan, y mab ieuengaf, mor ddi-hid am y mater? Oes ganddo ryw gyfrinach nad ydy o'n ei rhannu gyda gweddill y teulu?
3 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 3 20 diwrnod ynghynt Andy Newbery

Siwan Jones 19 Mawrth 2017 20,000
Mynd o ddrwg i waeth mae'r cweryla rhwng y ddau deulu ar ôl i rywun adael gwartheg Huw yn rhydd ar y ffordd fawr. Mae dod o hyd i ateb i drafferthion ewyllys Mair yn anoddach fyth yn sgil gweithredoedd twp Dafydd a Josh. Mae tensiynau mawr ar aelwyd Dolwen ac mae Geraint, Gwenda, Nia, Sara a Dafydd, yn beio ei gilydd. Mae'r dirgelwch ynglyn â boddi Gwyndaf drannoeth ei barti pen-blwydd yn dwysau. Pam mae Huw mor awyddus i gyfarfod Ifan ger y llyn? Ac ynghanol yr holl wrthdaro mae marwolaeth Heulyn yn bwrw cysgod dros y presennol.
4 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 4 24 diwrnod ynghynt Andy Newbery

Siwan Jones

26 Mawrth 2017 llai na 20,000
Er i Nia geisio cadw ei bywyd priodasol yn breifat, caiff y cyfan ei ddatgelu pan fo Dylan yn galw yn ddirybudd. Daw rhai gwirioneddau i'r amlwg rhwng Ifan a Huw, er bod hyn yn codi mwy o gwestiynau nag atebion ynglyn â beth yn union ddigwyddodd rhwng y ddau ar fore boddi Gwyndaf. A fydd genedigaeth Macsen yn fodd o dynnu teulu Dolwen a theulu'r byngalo at ei gilydd? Mae helbulon ariannol Tom a'i gelwyddau diddiwedd yn dechrau blino Lissie, a does dim dal am faint eto y bydd hi'n fodlon ei warchod.
5 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 5 16 diwrnod ynghynt Rhys Powys

Siwan Jones

2 Ebrill 2017 22,000
Parhau mae'r dirgelwch am farwolaeth Gwyndaf gydag Ifan a Huw yn rhoi'r bai ar ei gilydd am ei foddi. Caiff teulu Dolwen dipyn o ysgytwad wrth glywed bod Ifan yn fab i Mair a Huw, a sioc bellach bod Huw am roi'r tir yn enw ei fab. Mae clywed hyn yn gwylltio Tom ac mae'n erfyn ar Lissie i ysgaru ei dad. Ond yn nhy Dolwen, mae ysbryd Heulyn yn mynnu byw trwy Mabli nes dechrau gyrru Gwenda o'i cho'.
6 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 6 12 diwrnod ynghynt Rhys Powys

Siwan Jones

9 Ebrill 2017 21,000
Daw Sara i wybod fod cynlluniau busnes uchelgeisiol gan Geraint ar gyfer Dolwen. Mae Dafydd a Nia yn chwarae gêm beryglus o dan drwyn Sara ond mae hithau'n poeni bod ei breuddwyd o ffermio yn mynd yn ofer. Mae Gwenda yn mynnu bod rhywun wedi ei gwthio i lawr grisiau'r seler. Ac er i Tom geisio ei orau i arbed ei hun rhag mynd i waeth helyntion gyda Cynthia, mae ei dad yn gorfod setlo ei ddyledion - ond am bris.
7 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 7 7 diwrnod ynghynt Rhys Powys

Siwan Jones

16 Ebrill 2017 llai na 21,000
Croesi cleddyfau gyda Gwenda a wnaiff Catrin pan glyw hi am ei bwriad i briodi ei thad. Daw Nia i wybod am gyfrinach ei chwaer ac i sylweddoli bod Sara wedi chwarae gêm gyfrwys iawn gyda hi a Dafydd. Mae mwy o ddirgelion yn dod yn amlwg i deulu Dolwen wrth iddynt geisio dod o hyd i'r gwir am foddi Gwyndaf ond er mwyn cael y tir gwerthfawr yn ddiogel yn eu dwylo mae'n rhaid i Geraint, Nia a Sara roi ffrwyn ar eu cwestiynau. Ond am ba hyd y gellir cadw'r gwir o'r golwg?
8 35 Diwrnod - Cyfres 3 - Pennod 8 2 diwrnod ynghynt Rhys Powys Siwan Jones, 23 Ebrill 2017 21,000
Mae Tom yn gwneud ei orau i gael ei fam i riportio ei dad i'r heddlu ac mae Lissie mewn gwewyr meddwl mawr. Oherwydd y tensiynau rhwng Catrin a Gwenda mae Geraint yn gorfodi ei ferch i ddychwelyd adre' i Gaerdydd. Ond ble mae hyn yn gadael ei pherthynas â Josh? A pham nad yw Josh yn ateb ei ffôn? Yn y cyfamser, mae'n rhaid i Geraint gadarnhau ei gynlluniau ond dyw'r tir dal ddim yn nwylo'r teulu. Mae'r pwysau ar Ifan yn waeth nag erioed ac mae hyn yn ei orfodi i weithredu.

Galeri[]

Cyfres 4: 35 Awr[]

Mae dwy stori yn cyd-redeg yn y gyfres hon, gydag aelodau rheithgor yn trafod achos o lofruddiaeth a’u bywydau cymhleth mewn ystafell llys a gwesty crand; a'r stori yr achos troseddol dan sylw, sy'n datblygu gydag ôl-fflachiadau i'r gorffennol. Mae'r digwyddiadau yn y gyfres hon yn fwy cyflym gan fod y fformat wedi newid o'r cyfresi blaenorol. Yn lle 35 diwrnod, nawr 35 awr sydd i'r llofruddiaeth.

Cast[]

Cymeriad Actor
Val Gillian Elisa
Moira Christine Pritchard
Haydn Jâms Thomas
Lynwen Lisa Victoria
Mererid Tara Bethan
Taz Iestyn Arwel
Ree Rebecca Hayes
Carwyn Dafydd Llŷr Thomas
Nadine Lisa Marged
Matt Aled Pedrick
Peredur Carwyn Jones
Steve Gareth John Bale
Stewart Ioan Hefin
Susie Lowri Palfrey
Kelvin Aled ap Steffan
Leighton Sion Eifion
Clerc Elin Llwyd
Heulwen Janet Aethwy
Joanne Mari Beard
John Aron Cynan
Rachel Rhian Morgan
Caleb Iwan Garmon

Penodau[]

# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd Gwylwyr
1 35-Awr-Pennod-1 35 awr i fynd Rhys Powys Fflur Dafydd 6 Ionawr 2019 38,000
Mae'r rheithgor - sydd wedi bod yn eistedd yn y llys am ymron i bythefnos mewn achos o lofruddiaeth, yn cael ei rhyddhau i'w hystafell i bwyso a mesur, ac y ddod i ddedfryd. Ond ychydig a wyddant y bydd un ohonynt yn gorff ymhen 35 awr.
2 35-Awr-Pennod-2 31 awr i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

13 Ionawr 2019 28,000
O ganlyniad i fethu a dod i ddyfarniad, mae'r rheithgor yn gorfod cwrdd am ddiwrnod arall. Ond maent mewn peryg. Tra bod Leighton, brawd y diffynnydd, Kelvin, yn rhydd, a'i gariad yn gorwedd rhwng byw a marw mewn ysbyty, mae'r barnwr wedi penderfynu bod yn rhaid i'r rheithgor aros dros nos mewn gwesty.
3 35-Awr-Pennod-3 24 awr i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd 20 Ionawr 2019 37,000
Gyda'r rheithgor wedi methu a dod i ddyfarniad, maent wedi eu hanfon i aros mewn gwesty dros nos. Dyw'r trefniant yma ddim wedi mynd i lawr yn dda, ac mae'r gwin yn llifo a'r tensiwn yn cynyddu.
4 35-Awr-Pennod-4 15 awr i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

27 Ionawr 2017 27,000
Mae'n fore ar ein rheithgor. Bore da i rai, ddim cystal i eraill. Mae Val yn dioddef wedi noson o or-yfed, ac yn cofio fawr ddim am y noson gynt - beth felly ddigwyddodd yn ystafell wely Haydn?
5 35-Awr-Pennod-5 9 awr i fynd Eryl Huw Phillips

Fflur Dafydd

3 Chwefror 2019 34,000
Mae'r rheithgor, wedi treulio noson mewn gwesty, yn ôl yn ystafell y rheithgor - ac mae pwysau cynyddol arnynt i gyrraedd dyfarniad.
6 35-Awr-Pennod-6 5 awr i fynd Eryl Huw Phillips

Fflur Dafydd

10 Chwefror 2019 33,000
Gyda dim ond pum awr i fynd, pa un o'r rheithgor fydd yn farw erbyn diwedd y noson, ac ydyn ni rhywfaint yn agosach at ddarganfod os ydy Kelvin yn euog ai pheidio?
7 35-Awr-Pennod-7 3 awr i fynd Eryl Huw Phillips Fflur Dafydd

17 Chwefror 2019 30,000
Gyda'r oriau'n tician, mae nifer o'r rheithgor mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Beth yw'r gyfrinach mae Lynwen yn ceisio ei gelu rhag Haydn? Pwy sy'n llechu yng ngerddi'r gwesty yn arsylli ar bopeth? A beth fydd tynged Matt?
8 35-Awr-Pennod-8 1 awr i fynd Eryl Huw Phillips Fflur Dafydd 24 Chwefror 2019 31,000
Mae'r awr fawr dyngedfennol olaf wedi cyrraedd. Eisoes mae dau o gymeriadau'r gyfres yn gyrff ond pa un o aelodau'r rheithgor fydd yn drydydd corff ymhen yr awr, a phwy o'r unarddeg ar ôl fydd yn gyfrifol am y farwolaeth? Dyma oedd y rheithgor o uffern!

Galeri[]

Cyfres 5: Parti Plu[]

Mae'r gyfres yma yn cychwyn ar ddiwrnod priodas Bethan a Dylan. Mae'r gwesteion yn cynnwys hen ffrindiau ysgol sydd yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf ers 5 mlynedd. Yn y bennod gyntaf, rydym yn gweld fêl priodas a chorff yn y môr. Mae'r stori wedyn yn mynd nôl 35 diwrnod cyn y briodas.

Cast[]

Cymeriad Actor
Bethan Gwenllian Higginson
Dylan Geraint Todd
Katie Ella Peel
Rhian Fflur Medi Owen
Angharad Emmy Stonelake
Efan Sion Ifan
Clive Richard Elfyn
Nesta Catrin Fychan
Owen Alex Harries
Dill Rhodri Meilir
Alwen Delyth Wyn
Iolo Gruffudd Glyn
Lilian Shelley Rees
Charlie Hana Evans

Penodau[]

# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd Gwylwyr
1 35 Diwrnod - Cyfres 5 - Pennod 1 35 diwrnod ynghynt Rhys Powys Fflur Dafydd 26 Ebrill 2020
Cyfres newydd, a chorff newydd wedi ei ganfod yn arnofio yn y môr, wedi ei wisgo yn barod am briodas. 35 niwrnod ynghynt, mae Beth y ddarpar briodferch yn cael hwyl gyda'i morwynion priodas a'i ffrindiau oes wrth baratoi am ei diwrnod mawr, ond mae cymylau duon yn bygwth ei hapusrwydd: ymddygiad amheus ei darpar-wr Dylan a chenfigen ei brawd anhapus, Owen. Gall Beth orchfygu ei amheuon am briodi er mwyn cadw ei theulu'n hapus.
2 35 Diwrnod - Cyfres 5 - Pennod 2 30 diwrnod i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

3 Mai 2020
Mae Beth yn ymweld a'i chartref newydd, ond mae'n dweud celwydd wrth ei chariad am fod yno, sy'n corddi Dylan. Mae gan Efan, ffrind Beth, gyfrinach i'w gwelu ond mae'n codi amheuon yn ei fam Alwen, sy'n benderfynol o wybod y gwir. Daw priodas Bill ac Angharad o dan straen wrth i¿r ddau ofalu am fabi newydd.
3 35 Diwrnod - Cyfres 5 - Pennod 3 27 diwrnod i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd 10 Mai 2020
Gyda 27 diwrnod i fynd, mae Dylan mewn panig wrth ofni bo Beth mewn perygl, ac yn rhuthro i'w hachub. Mae'r pwysau o drefnu priodas a chadw gafael ar y busnes teuluol yn dechrau dweud ar Clive a Nesta sy'n achosi trafferthion i'w mab Owen. Mae ei gyn-gariad Rhian yn cael sioc wrth ddarganfod pwy ydi ei pherthynas newydd.
4 35 Diwrnod - Cyfres 5 - Pennod 4 21 diwrnod i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

17 Mai 2020
Gyda deg diwrnod ers y bennod olaf, mae Angharad ar dân am wybod pwy sy'n gyfrifol am ganslo'r Parti Plu. Yn ei gartref moethus newydd, beth mae Dylan yn disgwyl i Owen wneud a'r gath ddu, Colsyn. Mae'r tensiwn yng nghartref Angharad a Bill yn cynyddu gydag ymwelydd annisgwyl.
5 35 Diwrnod - Cyfres 5 - Pennod 5 15 diwrnod i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

24 Mai 2020
Mae'r criw o ffrindiau, ac ambell un ychwanegol, yn cyrraedd tŷ glan môr moethus am benwythnos Parti Plu Beth ond dydi'r trefniadau ddim yn rhedeg yn llyfn.
6 13 diwrnod i fynd Rhys Powys

Fflur Dafydd

31 Mai 2020
Beth fydd yn disgwyl Angharad wrth iddi agor drws ei chartref ar ôl penwythnos y Parti Plu' Mae Nesta o'r diwedd yn cael yr hyder i ddatgelu ei chyfrinach i'w phlant tra bo Rhian yn gorfod wynebu gwirioneddau anodd am ei gorffennol. Mae meddwl Evan wedi bod ar chwâl ond mae'n galw yn yr oriel ac yn tyrchu drwy gynnwys hen focsys cyn neud darganfyddiad mawr. Daw diwrnod mawr y briodas a'r cyfle i ddarganfod yn union pwy ydi'r corff ar waelod y glogwyn.

Galeri[]


Advertisement