Wici Y Cyfryngau Cymraeg

Cerddor, bardd, actor a chomediwr ooedd Dewi 'Pws' Morris. Roedd yn adnabyddus am fod yn brif leisydd Y Tebot Piws ac yn ddiweddarach am ei gyfresi comedi ar S4C. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.

Bywyd cynnar[]

Ganwyd Dewi Gray Morris yn Nhreboeth, Abertawe. Aeth i Ysgol Gymraeg Lôn Las ac yna Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe.[1] 

Daeth i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys. Wedi hynny, aeth i Goleg Cyncoed i hyfforddi'n athro a bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn y Sblot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio, gyda swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru.

Gyrfa[]

Cerddoriaeth[]

Bu'n aelod o'r band pop cynnar Y Tebot Piws ac wedyn y supergroup Cymraeg cyntaf Edward H. Dafis.

Enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân "Nwy yn y Nen" a cyfansoddodd y gân nodedig "Lleucu Llwyd". Mae wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm ac mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.

Ef oedd cymeriad y Brenin Ri yn yr opera roc 'Nia Ben Aur' ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974.

Cyfansoddwyd y caneuon gan lawer o sêr y Sîn Roc Gymraeg ar y pryd.

Datganodd wrth y Cymro  ym mis Ionawr 2010 y byddai'n gwrthod ymddangos ar nifer raglenni Radio Cymru bellach gan eu bod yn chwarae gormod o gerddoriaeth Saesneg. Eglurodd nad oedd Radio Wales yn chwarae caneuon Cymraeg, felly doedd dim rheswm i'r unig sianel radio cenedlaethol Cymraeg chwarae caneuon Saesneg.[2]

Comedi ac actio[]

Chwaraeodd y cymeriad "Wayne Harries" ar Pobol y Cwm o'r cychwyn yn 1974 hyd at 1987. Roedd ganddo un o'r brif rannau yn y ffilm gomedi eiconig Grand Slam ym 1978.[3] Ymddangosodd hefyd yn y gyfres Taff Acre(HTV Cymru, 1981).

Yn ystod yr 80au aeth ati i ysgrifennu a pherfformio yn y gyfres gomedi 'Torri Gwynt', gan actio nifer o gymeriadau lliwgar a chofiadwy.

Bu'n actor ar y gyfres deledu Rownd a Rownd ers dechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni eraill ar S4C megis Miri MawrHapus Dyrfa.

Enillodd wobr y cyflwynwr rhanbarthol gorau am ei raglen Byd Pws ar S4C yng nghwobrau'r Royal Television Society yn 2003.[4]

Bywyd personol[]

Roedd yn briod a Rhiannon a bu'n byw yn Nhre-saith cyn ymgartrefu yn Nefyn, Gwynedd.[5]

Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r Orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd, gan ddewis yr enw barddol 'Dewi’n y Niwl', ac fe dderbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018.

Wrth dderbyn y wobr honno, dywedodd ar y pryd:  “Yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a’r  iaith Gymraeg yn bwysig i mi, a hefyd sut i adeiladu cestyll tywod gore’r byd.”

Ffilmyddiaeth[]

Teitl Blwyddyn Rhan Cwmni cynhyrchu Nodiadau
Miri Mawr 1972-1978 Dyn Creu HTV Cymru
Pobol y Cwm 1974-1987 Wayne Harries BBC Cymru
Hawkmoor 1978 Ieuan Rogerts BBC Cymru
Grand Slam 1978 Glyn Lloyd-Evans
Off to Philadelphia in the Morning 1978 Robbie Jones
Newid Gêr 1979 Steve Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Taff Acre 1981 Gareth Johnson
Torri Gwynt 1983-1987 HTV Cymru
Night Beat News 1984 Simon
Rhagor o Wynt 1986-1989 HTV Cymru
Dros Ben Llestri 1987 BBC Cymru
Hapus Dyrfa 1990-1992 Gareth Ffilmie Matinée
Bechingalw 1992 BBC Cymru
Dan Y Wenallt 1992
Spirit of Cwmderi 1993 Cyflwynydd
15: The Life and Death of Philip Knight 1993 Rev. Edward Hunt
Rownd a Rownd 1995-2007, 2020 Islwyn Morgan Ffilmiau'r Nant, Rondo
Byd Pws 2001-2005
High Hopes 2007 Kurt Stable
Rhestr Nadolig Wil 2008 Tad Cu John Boomerang
Lan a Lawr 2015 Mal Alfresco
Amser Maith Maith Yn Ôl 2018 Tadcu
Fferm Ffactor 2019 Cystadleuydd Cwmni Da Cyfres 2019
Sgwrs dan y Lloer 2021 Gwestai Tinopolis Cyfres 2, Pennod 5

Llyfryddiaeth[]

Teitl Cyhoeddwyd Cyhoeddwyr
Llyfr i Blant dan Gant Ionawr 1972 Y Lolfa
Poster I Ti To Y Lolfa
Pws! Chwefror 2000 Y Lolfa
Posteri Poeth Awst 2001 Y Lolfa
Teithiau Dewi Pws: Fo a fi Gyda'i Help Hi Hydref 2004 Gwasg Carreg Gwalch
Cyfres y Cewri 26: Theleri Thŵp Ebrill 2005 Gwasg Gwynedd
Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau Gorffennaf 2007 Gwasg Carreg Gwalch
Cyfres Ti'n JocanHiwmor Pws Medi 2007 Y Lolfa
Dewi, Dwpsi a'r Aur Medi 2010 Gwasg Carreg Gwalch
Wps! Hydref 2011 Gwasg Gomer
Straeon Tafarn Tachwedd 2012 Y Lolfa
Parri'r Pobydd 2013 Gwasg Gomer
Llyfr Jôcs y Lol fa Mawrth 2013 Y Lolfa
Nadolig Gwyntog Rwdolff 2014 Gwasg Gomer
Popeth Pws Rhagfyr 2015 Y Lolfa
Môr-ladron Mewn Pyjamas 2016 Gwasg Gomer

Marwolaeth[]

Wedi cyfnod byr o waeledd, bu farw yn sydyn ar 22 Awst 2024, yng nghwmni ei wraig, yn eu cartref - Penbryn Holborn, Nefyn. Roedd yn 76 mlwydd oed.[6]

Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Dewi yn Amlosgfa Bangor brynhawn Iau, 12 Medi am 1.30 y.p. Teithiodd yr hers a'r teulu o'u cartref ac ymlwybro drwy bentref Nefyn tua Morfa Nefyn ac yna heibio'r Bryncynan ar eu taith i Fangor. Teithiodd dros 600 o bobl o bob rhan o'r wlad i fod yn bresennol.

Galeri[]

Cyfeiriadau[]